Home Menu

Cynhadledd NAHT Cymru 2024

 

ENGLISH

Gogledd
Dydd Mercher  21 Chwefror 2024
Gwesty St George, Llandudno LL30 2LG

 

 
De
Dydd Gwener 23 Chwefror 2024
Voco St David’s, Caerdydd CF10 5SD

 

 
Mae NAHT Cymru yn eich gwahodd i Gynhadledd NAHT Cymru 2024 - Cynhadledd arweinyddiaeth â ffocws ar Gymru

 

Mae aelodau NAHT Cymru wedi cael blwyddyn heriol.  Cymerodd arweinwyr ysgolion gamau gweithredu cenedlaethol am y tro cyntaf yn hanes 126 mlynedd yr undeb yn eu brwydr dros amddiffyn addysg.  Mae ein gweithredu wedi cadarnhau ein lle fel undeb ymgyrchu, a nawr yw'r amser i fanteisio ar y gyfunoliaeth honno a chefnogi ein haelodau gyda pha bynnag heriau sydd o'n blaenau.

Mae’r gynhadledd yn gyfle i adeiladu ar ein llwyddiant, i gynllunio camau nesaf yr undeb o ran ein hagenda ar gyfer 2024 ac i ddod ag aelodau ynghyd i drafod yr holl feysydd addysg sydd o bwys i chi. Eich llais chi sy'n gyrru ein gweithgaredd; ymunwch â ni a gwnewch yn siŵr bod eich barn yn cael ei chlywed.

 

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r digwyddiad AM DDIM hwn ar gyfer aelodau NAHT Cymru yn unig. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar.

 

Rhaglen - Bydd ar gael yn fuan. Yr amseroedd bras yw 09:00 tan 17:00.

 

Siaradwyr

Ymhlith y siaradwyr gwadd mae Ysgrifennydd Cyffredinol NAHT Paul Whiteman a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Estyn. Manylion i'w cadarnhau yn yr wythnosau nesaf. Bydd sesiwn drafod hefyd, ble gall aelodau gyflwyno cynigion i lunio agenda ymgyrchu ein hundeb, ynghyd â llawer o gefnogaeth a chyngor i aelodau yn ystod y dydd.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at events@naht.org.uk.

;