Cwestiwn | Ateb |
Ydy'r ysgol ar agor? | Ydy |
Ydych chi'n ymwybodol o'r canllawiau sydd ar gael ar wefan y llywodraeth a HSE? | Ydw |
Oes gennych chi ddigon o wybodaeth am y canllawiau? | Oes, cyn belled ag y gallwn, gyda'r sefyllfa sy'n newid o hyd |
Oes gennych chi asesiad risg Covid-19 ar waith? | Oes |
Pwy sydd wedi bod yn rhan o ysgrifennu'r asesiad risg? | Uwch reolwyr a llywodraethwyr |
Pa ymgynghoriad sydd wedi digwydd gyda'r undebau? | Ymgynghoriad â’r awdurdod lleol (ALl). |
A allwch chi enwi'r cynrychiolydd undeb a ymgynghorodd ar eich cynllun AR? | Fel yr uchod. |
Sut mae'r asesiad risg wedi'i gyfathrebu i athrawon, disgyblion, rhieni? | Mae athrawon wedi cael diwrnod HMS; mae disgyblion a rhieni wedi derbyn negeseuon ysgrifenedig. |
Pa adolygiadau ydych chi wedi'u cynnal? | Mae gennym ddiwrnod HMS pellach ar y gweill ar …… .. i adolygu a diwygio os oes angen. |
Ydych chi'n gallu cynnal y rheol dwy fetr; os nad ydych chi, beth ydych chi'n ei wneud i liniaru'r risg? | Mae’r rheol dwy fetr yn cael ei dilyn cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol; e.e. mae grwpiau blwyddyn mewn swigod; systemau un ffordd; amseroedd cychwyn, egwyl a gorffen wedi’u hamrywio; dosbarthiadau ychwanegol yn cael eu cynnal yn y neuadd; cynnal pellter cymdeithasol mewn ardaloedd cymunedol fel ystafell y staff. |
Oes gennych chi ddigon o gyfleusterau golchi dwylo yn yr ysgol? | Oes |
Oes gennych chi ddigon o hylif gwrth-facterol ar gael i athrawon a disgyblion? | Oes |
Ydych chi'n ymwybodol bod angen i hylif gwrth-facterol fod yn 70% alcohol? | Ydw |
Oes yna arwynebau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml - sut ydych chi'n eu glanhau? | Disgrifiwch y drefn ar gyfer glanhau |
Beth ydych chi'n ei wneud os yw plentyn neu athro yn datblygu symptomau yn yr ysgol? | Cynghori’r aelod staff a'i deulu i hunan-ynysu. Rhoi gwybod i'r ALl a threfnu prawf trwy'r ALl; mewn achosion eithafol lle nad yw hyn yn bosibl, trefnu bod pecyn profi gartref ar gael gan yr ysgol. |
Sut ydych chi'n cyfleu gwybodaeth i rieni / staff / plant am symptomau a'r ffordd gywir o weithredu os ydyn nhw neu eu teulu’n dangos symptomau? | Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; trwy gyfathrebu ysgrifenedig rheolaidd. |
Ydych chi'n ymwybodol o’r pecynnau profi gartref? | Ydw. Dim ond yn cael eu defnyddio mewn sefyllfa o argyfwng |
Oes gan athrawon fynediad at PPE? | Oes. Yn unol â'r canllawiau ac asesiadau risg. |
Beth ydych chi'n ei wneud am adnoddau sy'n cael eu cyffwrdd? | Rhoi llyfrau mewn cwarantîn; athrawon a disgyblion yn sychu arwynebau â diheintydd; osgoi rhannu adnoddau lle bo hynny'n bosibl. Lleihau faint o bethau y gall disgyblion ddod i'r ysgol gyda nhw. |
Pa mor aml ydych chi'n glanhau'r ysgol? | Bob awr / yn ddyddiol. Disgrifiwch y drefn ar gyfer glanhau |