Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog dydd Mercher, pan gyhoeddodd £5m ychwanegol, wedi ei glustnodi ar gyfer ysgolion peilot, ymatebodd NAHT Cymru yn syth, a ddanfonwyd at aelodau. Derbyniodd hwn gryn sylw gan y cyfryngau.
Be neas’ yn ein hymgyrch? Rydym wedi penderfynu lobïo Aelodau’r Cynulliad (AC) fel a ganlyn.
- Byddwn yn ysgrifennu llythyr at bob AC yn esbonio’r sefyllfa a bydd swyddogion cangen yn derbyn copïau o’r llythyron. Bydd y llythyron hefyd ar gael ar wefwan NAHT Cymru.
- Byddaf i yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Ymchwilio Cyllid y Cynulliad ar Mai 22. Rydym yn gofyn i bob aelod wneud apwyntiad i weld ei AC yn y Senedd ar fore Mai 22, pan fydd y Cynulliad mewn sessiwn lawn, neu yn eich etholaeth eich hun. Rydym wedi atodi rhestr holl AC, eu cyfeiriadau a’u manylion cyswllt gyda’r cylchlythyr yma. I fod yn effeithiol, dab eth fyddai cynnal y cyfarfodydd hyn cyn i’r Pwyllgor Archwilio Cyllid gwrdd ar Mai 22. Dyma paham y dewiswyd Mai 21 ar gyfer lobïo cyffredinol.
- Os ydych yn bwriadu cwrdd â’ch AC yn lleol, ceisiwch fynd â dirprwyaeth o aelodau, ac o bosib llywodraethwyr a rhieni, rhowch wybod i’r wasg lleol, ac adroddwch yn ôl i mi ar ymateb a sylwadau eich AC. Byddai’n ddefnyddiol ymysg popeth, rhoi engreifftiau o sut mae’r diffyg cyllid yn effeithio’ch ysgol chi.
- Os ydych yn bwriadu ymuno â’r lobïo yn y Senedd ar fore Mai 21, bydd angen i chi wneud apwyntiad i weld eich AC ar y diwrnod, gan na fyddwch yn gallu bod yn sicr o’i (g)weld heb apwyntiad. Bydd swyddfa’r NAHT yng Nghaerdydd yn trefnu i’r cyfryngau bod yno i gwrdd â’r rhai sy’n lobïo. Bydd mwy o fanylion yn dilyn cyn y 21ain ynglyn ag amseriad ayyb.
I fod yn effeithiol rhaid i ni gael cefnogaeth gan Llywodraethwyr, Rhieni, a Staff Cynorthwyol. Gofynwn i gymaint o aelodau sy’n bosib lobïo AC, yn lleol neu yng Nghaerdydd, ynghyd â’ch Cadeirydd Llywodraethwyr (neu un arall o’r Llywodraethwyr). Mae hyn yn fater pan fo angen i ni sefyll gyda’n gilydd. Mae’n fater o bwysigrwydd enfawr i’r holl ysgolion a phlant. Gallwn wneud hyn, a rhaid ei wneud, heb amharu ar yr ysgol.
Fedrwch chi roi gwybod i mi, fel mater o frys, a fyddwch yn dod i Gaerdydd ar fore Mai 21. A wnaiff Ysgrifenyddion Cangen drefnu bws/ceir o’ch hardal chi?
NEWYDD DDOD I LAW - Mae Jane Hutt Gweinidog Plant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, wedi cytuno cwrdd â Mick Brookes, Ysgrifennydd Cyffredinol NAHT, a minnau, ar dydd Gwener Mai 16 i drafod y Cyfnod Sylfaen.
Iwan Guy – Cyfarwyddydd Dros Dro
NAHT Cymru